Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Steven Soderbergh |
Cynhyrchydd | Danny DeVito Stacey Sher Michael Shamberg Gail Lyon John Hardy |
Ysgrifennwr | Susannah Grant |
Serennu | Julia Roberts Albert Finney Aaron Eckhart |
Cerddoriaeth | Thomas Newman |
Sinematograffeg | Ed Lachman |
Golygydd | Anne V. Coates |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Universal Pictures Columbia Pictures |
Amser rhedeg | 130 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Mae Erin Brockovich (2000) yn ffilm ddrama-ddogfen sy'n dramatieddio hanes brwydr gyntaf Erin Brockovich yn erbyn cwmni nwy ac olew enfawr o'r enw PG&E. Cyfarwyddwyd y ffilm gan Steven Soderbergh a serennodd Julia Roberts fel y prif gymeriad. Enillodd Roberts Wobr yr Academi am yr Actores Orau am ei rhan yn y ffilm. Mae'r ffilm yn seiliedig ar hanes go iawn gwraig o'r enw Erin Brockovich a wnaeth ymddangosiad cameo yn y ffilm fel gweinyddes o'r enw Julia. Cyfansoddwyd y sgôr cerddorol wreiddiol gan Thomas Newman.